Math | Bara fflat, bara |
---|---|
Yn cynnwys | blawd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae bara pita yn fath o fara gwastad meddal, ychydig wedi'i eplesu, o flawd gwenith, sy'n cael ei fwyta yn y Dwyrain Canol a phen ddwyreiniol Môr y Canoldir yn wreiddiol. Caiff weithiau ei bobi ar waliau'r ffwrn a gall y crwst atgoffa person o bitsa.
Mae'r pita Twrcaidd, y pide, bron wastad yn cynnwys hadau sesame neu corn carwe (Saesneg: caraway; Lladin: nigella sativa) ac nid yw'n "wag" fel sawl bara gwastad, ond mae ganddi friwsion. Mewn priodasau Bwlgareg, fe'i cyflwynir i'r briodferch a'r priodfab, ynghyd â mêl a halen, a chyfres o ddefodau sy'n arwydd o gydraddoldeb a melysrwydd bywyd priod.